Summary: | Mae’r ddoethuriaeth hon yn cynnwys portffolio amrywiol o waith creadigol mewn sawl genre: ysgrifau, cerddi, storïau byrion, llên meicro, monologau a nofel. Dilynir hynny gan draethawd sydd yn trafod proses creu’r gweithiau hyn. Ystyrir y modd y gall un thema ymddangos dro ar ôl tro, waeth beth fo’r genre neu’r stori arwynebol. Mae hefyd yn ymdrin â’r gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng gwahanol genres. Ceisir olrhain y camau sydd yn arwain at y darn gorffenedig: y camau hir-dymor, h.y. yng nghyd-destun gyrfa o ysgrifennu, a hefyd y camau tra bo’r gwaith penodol hwnnw’n cael ei greu. Yn olaf trafodir cynhysgaeth ac adladd cyfnod y ddoethuriaeth.
|