Summary: | Cydnabyddir bod y 19eg ganrif yn gyfnod ffurfiannol yn hanes ymffurfiad cenedlwladwriaethau modern yn Ewrop. Addefir yn ogystal fod Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw yn meddu ar nifer o’r nodweddion a ddylai fod wedi esgor ar fudiad cenedlaethol amlwg, megis ei hiaith ei hun a gwasg genedlaethol lewyrchus. Mae'r cwestiwn 'Pam na ddigwyddodd hyn?' yn un sydd wedi codi'n aml yn y blynyddoedd diweddar yn sgil y cyferbyniad rhwng y datganoli cymharol araf a welir yng Nghymru a’r newidiadau gwleidyddol pellgyrhaeddol ar draws gweddill y Deyrnas Unedig. Prif amcan y traethawd hwn fydd cynnig dadansoddiad amgen o’r hyn a fu’n gyfrifol am ddatblygiad cenedlaetholdeb Cymreig yng Nghymru yn y 19eg ganrif, gan roi’r pwyslais ar ddamcaniaethau ‘offerynyddol’ sy’n blaenoriaethu pwysigrwydd sefydliadau cenedlaethol, a hefyd y wasg argraffu. Prif gyfraniad y traethawd fydd dangos bod modd ieuo’r damcaniaethau hyn fel modd o esbonio datblygiad mudiadau cenedlaethol ymysg grwpiau sy’n meddu ar ieithoedd lleiafrifol ond sy’n rhan o genedl-wladwriaethau mwy sydd eisoes wedi moderneiddio. Wrth wneud hyn, byddaf hefyd yn herio damcaniaethau blaenllaw sydd wedi rhoi’r pwyslais yn hytrach ar ideoleg y Cymry wrth esbonio pam na fu mudiad cenedlaethol amlwg yn ystod y cyfnod hwn.
|