Hanes y Degwm yng Nghymru yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, gyda sylw arbennig i 'Ryfel y Degwm'
Y mae’r traethawd hwn yn astudio hanes y degwm yng Nghymru o’r 1790au hyd at yr 1890au. Rhoddir sylw neilltuol i wrthglerigiaeth er mwyn asesu a oedd talu degymau i’r Eglwys Sefydledig wedi creu drwgdeimlad ar y lefel sylfaenol. Yn ogystal â hyn, edrychir ar yr elfen ‘foesol’ ynghylch talu’r degymau...
Main Author: | |
---|---|
Other Authors: | |
Published: |
Bangor University
2017
|
Online Access: | https://ethos.bl.uk/OrderDetails.do?uin=uk.bl.ethos.731720 |
id |
ndltd-bl.uk-oai-ethos.bl.uk-731720 |
---|---|
record_format |
oai_dc |
spelling |
ndltd-bl.uk-oai-ethos.bl.uk-7317202019-01-04T03:19:07ZHanes y Degwm yng Nghymru yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, gyda sylw arbennig i 'Ryfel y Degwm'Jones, Sion EdwardRees, Lowri2017Y mae’r traethawd hwn yn astudio hanes y degwm yng Nghymru o’r 1790au hyd at yr 1890au. Rhoddir sylw neilltuol i wrthglerigiaeth er mwyn asesu a oedd talu degymau i’r Eglwys Sefydledig wedi creu drwgdeimlad ar y lefel sylfaenol. Yn ogystal â hyn, edrychir ar yr elfen ‘foesol’ ynghylch talu’r degymau, ac i ba raddau y chwaraeodd y ‘gydwybod Ymneilltuol’ rôl yn hyn. Wedi arolygu’r llenyddiaeth berthnasol, y mae’r traethawd yn edrych yn fanwl ar y ‘wedd gyntaf’ o anniddigrwydd ynghylch y degymau yng Nghymru yn ystod cyfnod y Chwyldro yn Ffrainc. Dilynir hyn gan astudiaeth o’r ‘ail wedd’ yn ystod yr 1830au, cyn mynd ymlaen i edrych ar y cyfnod ‘distaw’ hwnnw o bron i hanner canrif rhwng 1836-1886. Y mae ail hanner o’r traethawd yn ffocysu ar ‘Ryfel y Degwm’ (fel y’i gelwid), rhwng 1886-1895. Rhoddir cyfrif cryno o’r cythrwfl yn gyntaf er mwyn gosod y penodau thematig sydd i’w dilyn o fewn cyd-destun cronolegol. Y mae’r bennod thematig gyntaf yn archwilio’r enghreifftiau o wrthglerigiaeth ar y lefel sylfaenol, megis creu a llosgi delwau o glerigwyr, yn ogystal ag enghreifftiau o fandaliaeth a bygythiadau. Dilynir hyn gan arolwg o gyflwr ariannol y clerigwyr ar y pryd, ac i ba raddau yr effeithiodd hyn ar eu bywydau beunyddiol. Diweddir yr adran drwy edrych yn fanwl ar y ‘cynhyrfwyr a’r cynhyrfus’, sef y bobl gyffredin a gymerodd ran yn ‘Rhyfel y Degwm’. Drwy ymdrin â hanes y degwm yng Nghymru yn y modd hwn, y mae’n bosib ychwanegu at ein dealltwriaeth drwy ail-gloriannu’r hen chwedl bod talu’r degymau yn anathema i Anghydffurfwyr, yn ogystal â chwalu’r fytholeg sydd wedi datblygu ynghylch ‘Rhyfel y Degwm’.Bangor Universityhttps://ethos.bl.uk/OrderDetails.do?uin=uk.bl.ethos.731720https://research.bangor.ac.uk/portal/en/theses/hanes-y-degwm-yng-nghymru-yn-ystod-y-bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg-gyda-sylw-arbennig-i-ryfel-y-degwm(530539ad-f98e-47c6-8238-15e127c87f9f).htmlElectronic Thesis or Dissertation |
collection |
NDLTD |
sources |
NDLTD |
description |
Y mae’r traethawd hwn yn astudio hanes y degwm yng Nghymru o’r 1790au hyd at yr 1890au. Rhoddir sylw neilltuol i wrthglerigiaeth er mwyn asesu a oedd talu degymau i’r Eglwys Sefydledig wedi creu drwgdeimlad ar y lefel sylfaenol. Yn ogystal â hyn, edrychir ar yr elfen ‘foesol’ ynghylch talu’r degymau, ac i ba raddau y chwaraeodd y ‘gydwybod Ymneilltuol’ rôl yn hyn. Wedi arolygu’r llenyddiaeth berthnasol, y mae’r traethawd yn edrych yn fanwl ar y ‘wedd gyntaf’ o anniddigrwydd ynghylch y degymau yng Nghymru yn ystod cyfnod y Chwyldro yn Ffrainc. Dilynir hyn gan astudiaeth o’r ‘ail wedd’ yn ystod yr 1830au, cyn mynd ymlaen i edrych ar y cyfnod ‘distaw’ hwnnw o bron i hanner canrif rhwng 1836-1886. Y mae ail hanner o’r traethawd yn ffocysu ar ‘Ryfel y Degwm’ (fel y’i gelwid), rhwng 1886-1895. Rhoddir cyfrif cryno o’r cythrwfl yn gyntaf er mwyn gosod y penodau thematig sydd i’w dilyn o fewn cyd-destun cronolegol. Y mae’r bennod thematig gyntaf yn archwilio’r enghreifftiau o wrthglerigiaeth ar y lefel sylfaenol, megis creu a llosgi delwau o glerigwyr, yn ogystal ag enghreifftiau o fandaliaeth a bygythiadau. Dilynir hyn gan arolwg o gyflwr ariannol y clerigwyr ar y pryd, ac i ba raddau yr effeithiodd hyn ar eu bywydau beunyddiol. Diweddir yr adran drwy edrych yn fanwl ar y ‘cynhyrfwyr a’r cynhyrfus’, sef y bobl gyffredin a gymerodd ran yn ‘Rhyfel y Degwm’. Drwy ymdrin â hanes y degwm yng Nghymru yn y modd hwn, y mae’n bosib ychwanegu at ein dealltwriaeth drwy ail-gloriannu’r hen chwedl bod talu’r degymau yn anathema i Anghydffurfwyr, yn ogystal â chwalu’r fytholeg sydd wedi datblygu ynghylch ‘Rhyfel y Degwm’. |
author2 |
Rees, Lowri |
author_facet |
Rees, Lowri Jones, Sion Edward |
author |
Jones, Sion Edward |
spellingShingle |
Jones, Sion Edward Hanes y Degwm yng Nghymru yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, gyda sylw arbennig i 'Ryfel y Degwm' |
author_sort |
Jones, Sion Edward |
title |
Hanes y Degwm yng Nghymru yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, gyda sylw arbennig i 'Ryfel y Degwm' |
title_short |
Hanes y Degwm yng Nghymru yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, gyda sylw arbennig i 'Ryfel y Degwm' |
title_full |
Hanes y Degwm yng Nghymru yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, gyda sylw arbennig i 'Ryfel y Degwm' |
title_fullStr |
Hanes y Degwm yng Nghymru yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, gyda sylw arbennig i 'Ryfel y Degwm' |
title_full_unstemmed |
Hanes y Degwm yng Nghymru yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, gyda sylw arbennig i 'Ryfel y Degwm' |
title_sort |
hanes y degwm yng nghymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda sylw arbennig i 'ryfel y degwm' |
publisher |
Bangor University |
publishDate |
2017 |
url |
https://ethos.bl.uk/OrderDetails.do?uin=uk.bl.ethos.731720 |
work_keys_str_mv |
AT jonessionedward hanesydegwmyngnghymruynystodybedwareddganrifarbymtheggydasylwarbennigiryfelydegwm |
_version_ |
1718805766846021632 |