Caffaeliad plant ifanc dwyieithog o’r system ateb yn y Gymraeg
Pwrpas yr ymchwil hwn oedd mesur dealltwriaeth plant dwyieithog rhwng 7;7 a 11;9 mlwydd oed o’r system ateb yn y Gymraeg. Mae nifer o ymchwilwyr wedi adnabod pwysigrwydd amlygiad ieithyddol digonol i’r broses o gaffael iaith ac o gaffael strwythurau cymhleth yn enwedig (e.e., Gathercole a Thomas, 20...
Main Author: | |
---|---|
Other Authors: | |
Published: |
Bangor University
2016
|
Subjects: | |
Online Access: | https://ethos.bl.uk/OrderDetails.do?uin=uk.bl.ethos.698932 |
id |
ndltd-bl.uk-oai-ethos.bl.uk-698932 |
---|---|
record_format |
oai_dc |
spelling |
ndltd-bl.uk-oai-ethos.bl.uk-6989322019-01-04T03:20:14ZCaffaeliad plant ifanc dwyieithog o’r system ateb yn y GymraegLloyd-Williams, Sian WynnThomas, Enlli2016Pwrpas yr ymchwil hwn oedd mesur dealltwriaeth plant dwyieithog rhwng 7;7 a 11;9 mlwydd oed o’r system ateb yn y Gymraeg. Mae nifer o ymchwilwyr wedi adnabod pwysigrwydd amlygiad ieithyddol digonol i’r broses o gaffael iaith ac o gaffael strwythurau cymhleth yn enwedig (e.e., Gathercole a Thomas, 2005). Gobeithir y bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o bwysigrwydd amlygiad digonol wrth gaffael dwy iaith ac y bydd yn cyfrannu at y drafodaeth sy’n edrych ar lunio strategaethau addysgol priodol fyddai’n cynorthwyo plant wrth geisio dysgu systemau cymhleth. Mae i’r system ateb amryw o nodweddion gwahanol sy’n cynnwys elfennau adlesiol lle adleisir y ferf gryno (e.e., Wyt ti’n hoffi coffi? Bod.2U.PRES lle ymatebir gyda’r ffurf Ydw Bod.1U.PRES), yn ogystal â ffurfiau di-adlais lle mae’n bosib i ffurf gystrawennol y frawddeg fod yn giw (e.e., Ai ti bia’r bêl yne? lle yr ymatebir gyda’r ffurf ymatebol Ie). Er fod yr amrywiadau hyn yn awgrymu fod y system yn un cymhleth ar yr olwg gyntaf, mae iddi hefyd nifer o reolau cyson (neu giwiau). Crëwyd 3 o dasgau newydd i 134 o blant o dri chefndir ieithyddol gwahanol: Un ai Cymraeg, Saesneg neu Gymraeg a Saesneg yn y cartref. Roedd y profion hyn yn cynnwys prawf barnu ar lafar a phrofion cynhyrchu ar lafar ac yn ysgrifenedig. Awgryma’r canlyniadau fod amlder y mewnbwn a thryloywder unrhyw eitem phenodol yn hollbwysig, gyda’r plant o gartrefi Cymraeg yn sgorio’n uwch na’r grwpiau eraill ar bron bob eitem ar gyfartaledd. Cyfranna’r ymchwil hwn at ein dealltwriaeth o bwysigrwydd amlder y mewnbwn, ciwiau cystrawennol, a’r angen i adnabod rheolau wrth gaffael strwythurau penodol. Yn unol â’r datganiad hwn, mae i’r canlyniadau yma oblygiadau tu hwnt i’r system hon, ac thu hwnt i’r iaith Gymraeg, a trafodir goblygiadau addysgol posib y canlyniadau a’r ystyriaeth sydd angen ei roi i ymchwil pellach.372.65Bangor Universityhttps://ethos.bl.uk/OrderDetails.do?uin=uk.bl.ethos.698932https://research.bangor.ac.uk/portal/en/theses/caffaeliad-plant-ifanc-dwyieithog-or-system-ateb-yn-y-gymraeg(229326dd-2fa6-40f4-bfdf-59ed4b466f62).htmlElectronic Thesis or Dissertation |
collection |
NDLTD |
sources |
NDLTD |
topic |
372.65 |
spellingShingle |
372.65 Lloyd-Williams, Sian Wynn Caffaeliad plant ifanc dwyieithog o’r system ateb yn y Gymraeg |
description |
Pwrpas yr ymchwil hwn oedd mesur dealltwriaeth plant dwyieithog rhwng 7;7 a 11;9 mlwydd oed o’r system ateb yn y Gymraeg. Mae nifer o ymchwilwyr wedi adnabod pwysigrwydd amlygiad ieithyddol digonol i’r broses o gaffael iaith ac o gaffael strwythurau cymhleth yn enwedig (e.e., Gathercole a Thomas, 2005). Gobeithir y bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o bwysigrwydd amlygiad digonol wrth gaffael dwy iaith ac y bydd yn cyfrannu at y drafodaeth sy’n edrych ar lunio strategaethau addysgol priodol fyddai’n cynorthwyo plant wrth geisio dysgu systemau cymhleth. Mae i’r system ateb amryw o nodweddion gwahanol sy’n cynnwys elfennau adlesiol lle adleisir y ferf gryno (e.e., Wyt ti’n hoffi coffi? Bod.2U.PRES lle ymatebir gyda’r ffurf Ydw Bod.1U.PRES), yn ogystal â ffurfiau di-adlais lle mae’n bosib i ffurf gystrawennol y frawddeg fod yn giw (e.e., Ai ti bia’r bêl yne? lle yr ymatebir gyda’r ffurf ymatebol Ie). Er fod yr amrywiadau hyn yn awgrymu fod y system yn un cymhleth ar yr olwg gyntaf, mae iddi hefyd nifer o reolau cyson (neu giwiau). Crëwyd 3 o dasgau newydd i 134 o blant o dri chefndir ieithyddol gwahanol: Un ai Cymraeg, Saesneg neu Gymraeg a Saesneg yn y cartref. Roedd y profion hyn yn cynnwys prawf barnu ar lafar a phrofion cynhyrchu ar lafar ac yn ysgrifenedig. Awgryma’r canlyniadau fod amlder y mewnbwn a thryloywder unrhyw eitem phenodol yn hollbwysig, gyda’r plant o gartrefi Cymraeg yn sgorio’n uwch na’r grwpiau eraill ar bron bob eitem ar gyfartaledd. Cyfranna’r ymchwil hwn at ein dealltwriaeth o bwysigrwydd amlder y mewnbwn, ciwiau cystrawennol, a’r angen i adnabod rheolau wrth gaffael strwythurau penodol. Yn unol â’r datganiad hwn, mae i’r canlyniadau yma oblygiadau tu hwnt i’r system hon, ac thu hwnt i’r iaith Gymraeg, a trafodir goblygiadau addysgol posib y canlyniadau a’r ystyriaeth sydd angen ei roi i ymchwil pellach. |
author2 |
Thomas, Enlli |
author_facet |
Thomas, Enlli Lloyd-Williams, Sian Wynn |
author |
Lloyd-Williams, Sian Wynn |
author_sort |
Lloyd-Williams, Sian Wynn |
title |
Caffaeliad plant ifanc dwyieithog o’r system ateb yn y Gymraeg |
title_short |
Caffaeliad plant ifanc dwyieithog o’r system ateb yn y Gymraeg |
title_full |
Caffaeliad plant ifanc dwyieithog o’r system ateb yn y Gymraeg |
title_fullStr |
Caffaeliad plant ifanc dwyieithog o’r system ateb yn y Gymraeg |
title_full_unstemmed |
Caffaeliad plant ifanc dwyieithog o’r system ateb yn y Gymraeg |
title_sort |
caffaeliad plant ifanc dwyieithog o’r system ateb yn y gymraeg |
publisher |
Bangor University |
publishDate |
2016 |
url |
https://ethos.bl.uk/OrderDetails.do?uin=uk.bl.ethos.698932 |
work_keys_str_mv |
AT lloydwilliamssianwynn caffaeliadplantifancdwyieithogorsystematebynygymraeg |
_version_ |
1718805735972798464 |