Arolwg o'r canu i deulu Mostyn, ynghyd â golygiad o'r cerddi o'r cyfnod c.1675-1692

Bu teulu Mostyn yn gefuogol i'r traddodiad barddol yn eu pum llys ar draws gogledd Cymru am ganrifoedd, a chlodforir eu nawdd yng nghanu beirdd y cyfnod. Daeth penllanw'r nawdd barddol yn yr 16g, yn arbennig drwy'r cysylltiad agos rh:wug y teulu ac Eisteddfodau Caerwys 1523 a 1567/8....

Full description

Bibliographic Details
Main Author: Jones, Eirian Alwen
Published: Bangor University 2014
Subjects:
Online Access:https://ethos.bl.uk/OrderDetails.do?uin=uk.bl.ethos.664526
Description
Summary:Bu teulu Mostyn yn gefuogol i'r traddodiad barddol yn eu pum llys ar draws gogledd Cymru am ganrifoedd, a chlodforir eu nawdd yng nghanu beirdd y cyfnod. Daeth penllanw'r nawdd barddol yn yr 16g, yn arbennig drwy'r cysylltiad agos rh:wug y teulu ac Eisteddfodau Caerwys 1523 a 1567/8. Erbyn cyfuod y Rhyfel Cartref, fodd bynnag, roedd y canu wedi dirwyn i ben ar aelwydydd y teulu. Mae'r rhagymadrodd yn astudiaeth 0 panes teulu Mostyn o'r pum llys hyd at 1847, a cheir dyfyniadau 0 rai o'r cerddi a ganwyd ar eu haelwydydd dros y canrifoedd. Ond ar ddiddordeb Tomas Mostyn (m.1692) mewn casgliadau llenyddol a nawdd barddol yn chwarter olafyr 17g. y mae prif sylw'r traethawd hwn a chyflwynir golygiad o'r cerddi a ganwyd iddo ef a'i deulu fel tystiolaeth o'i waith yn atgyfodi'r traddodiad barddol ar aelwyd y teulu' unwaith eto. Rhoddir sylw hefyd yn y rhagymadrodd i gefudir ei wraig, Bridget Savage, a dylanwad y ffydd Babyddol ar dynged ei theulu. Ceir gwybodaeth hefYd am gysylltiad y teulu a'r drefu farddol hyd at y 199. i gloi'r rhagymadrodd.