Summary: | Yn y traethawd hwn astudir yr ymdriniaeth â'r adar yn y farddoniaeth Gymraeg gaeth a luniwyd rhwng tua 1300 a 1600. Yn bennaf, gwaith y Cywyddwyr a ystyrir ond cymerir peth sylw o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg nad oeddent yn cyfansoddi cywyddau. Ar ôl rhagarweiniad byr rhennir y traethawd yn bum prif bennod. Ym Mhennod 2 ystyrir y ffyrdd yr edrychid ar y byd naturiol trwy Ewrop, yn enwedig ar y syniadaeth a etifeddwyd o'r Oes Glasurol ac ar fydolwg Cristnogol y cyfnod, a hwnnw'n anochel lywodraethol. Ymwna Pennod 3 â chywyddau gofyn a diolch am adar a genid o 1450 ymlaen, am elyrch, peunod, ffesantod ac yn enwedig adar hela. Mae Pennod 4 yn ymdrin â swyddogaethau adar o sawl math fel llateion yn y canu serch ac, yn yr unfed ganrif ar ddeg, fel negeswyr a yrrid at noddwyr, cyfeillion a pherthnasau i'w hannerch. Edrychir hefyd ar rôl adar a gynghorai'r bardd ei hunan. Ym Mhennod 5 troir at gerddi lle erys yr adar yn eu cynefin naturiol, yn bennaf at rôl yr adar bychain yn y canu serch a luniwyd gan Ddafydd ap Gwilym a'i olynwyr ond hefyd at gerddi am adar nad ystyrid mor glodwiw, megis y cyffylog ac yn enwedig y dylluan. Yn y bennod sylweddol olaf (Pennod 6) ystyrir y defnydd o adar i greu trosiadau ym mhob genre yn y canu. Mae hyn yn cwmpasu nid yn unig y darluniadau o'r uchelwyr fel adar ysglyfaethus o bob math ond hefyd y defnydd o beunod, elyrch a gwylanod at ddibenion y canu mawl. Edrychir hefyd ar adar y canu dychan, fel gwyddau, barcutiaid a garanod, ac ar yr arfer o guddio cymeriadau'r canu brud trwy roi enw aderyn (ymhlith creaduriaid eraill) arnynt. Atodir amryw luniau o adar i geisio goleuo'r disgrifiadau ohonynt yn y cerddi.
|