Summary: | Bwriad y traethawd hwn yw trafod agweddau ar gofiannau pregethwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng ngoleuni rhai syniadau a thrafodaethau dylanwadol diweddar ym maes lien bywyd (life-writing). Prif bwyslais y traethawd fydd dadansoddi'r berthynas ganolog ddeongliadol a chreadigol rhwng y cofiannydd Owen Thomas, Lerpwl a'i wrthrychau John Jones, Tal-y-sarn a Henry Rees - coflannau a ystyrir ymysg goreuon y genre. Yn y bennod gyntaf, asrudir y berthynas rhwng y prif ddylanwadau llenyddol a fii'n sail i'r cofiant, a hynny yng nghyd-destun amcan hyfforddiadol neu ddidactig y ffurf o gynnig portread o wrthrych sy'n esiampl o bregethwr duwiol a diwyd. Arwain hyn at ail ran y bennod, lie cynigir gorolwg ar y prif ddatblygiadau a fu ar y ffiirf yn ystod y ganrif. Y mae'r ail bennod yn adeiladu ar y bennod gyntaf, drwy fanylu ar gysylltiad Owen Thomas gyda'r traddodiad cofiannol Cymraeg. Cynigir dadansoddiad o'i seiliau cofiannol a'i brosesau creadigol, onid hunangofiannol, fel awdur yng nghyd-destun ei berthynas ddeongliadol a'i wrthrych - nodwedd arwyddocaol o theori hunan/gofiannaeth. Yn y drydedd bennod, amcenir at ddadansoddi cofiant enwog Owen Thomas i'r pregethwr nerthol John Jones, Tal-y-sarn (1874). Hyderir y bydd y drafodaeth ym mhenodau 1 a 2 yn goleuo'r ymdriniaeth a phortread ymwybodol, bwriadol a chreadigol Owen Thomas o'i wrthrych. Yma, cyflwynir trafodaeth ar y berthynas rhwng y cofiannydd a'i wrthrych nodedig, a'i gynulleidfa darged benodol, ac ystyried cysylltiad y cofiant nodedig hwn a'r traddodiad cofiannol Cymraeg. Y mae'r bedwaredd bennod yn cyflwyno ymdriniaeth fanwl ag ail gofiant Owen Thomas, sef Cofianty Parchedig Henry Rees (1890). Canolbwyntir unwaith eto ar ddehongli portread creadigol y cofiannydd o'i wrthrych, gan ystyried perthynas y gwahanol gyd-destunau a gyflwyna, a'u cyswllt gyda ffurfiau hunangofiannol penodol, megis yr atgof neu'r llythyr. Yn olaf, cyflwynir diweddglo byr ar ddiwedd y traethawd sy'n myfyrio ar gasgliadau'r ymchwil.
|